Lleoliad:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Medi 2015
Amser: 13.30
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2-15. Ni ofynnwyd cwestiwn 1. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog
ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.14
Gofynnwyd y 15 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 9 eu grwpio.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5820 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i fusnesau Cymru.
2. Yn mynegi pryder dwfn dros golli swyddi mewn busnesau sy'n derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn credu bod y broses o ddiwydrwydd dyladwy a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru cyn darparu cymorth grant ar gyfer busnesau wedi bod yn annigonol.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i wario arian cyhoeddus yn effeithiol i gefnogi busnesau Cymru.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'i methiannau o
ran cymorth busnes, gan gynnwys ail-flaenoriaethu er mwyn darparu
mwy o gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
41 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi anghenion ariannu busnesau Cymru drwy sefydlu banc datblygu busnes i Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â baich ardrethi busnes drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleoedd masnach newydd i fusnesau yng Nghymru drwy weithredu menter masnach tramor Plaid Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 5:
', gwell mynediad at gyllid a galluogi cymorth a chyngor busnes o ansawdd uchel'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
10 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5821 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru.
2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o ran mesur perfformiad gwasanaethau cyhoeddus.
3. Yn ofni bod
symud, ailddiffinio neu addasu targedau sy'n gysylltiedig â
darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl Cymru rhag dwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu
hir-dymor ar ei methiant parhaus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
10 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:
'gan gynnwys
sicrhau bod data yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd sy'n
sicrhau y gellir cymharu perfformiad â chenhedloedd
eraill'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5821 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru.
2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o ran mesur perfformiad gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys sicrhau bod data yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd sy'n sicrhau y gellir cymharu perfformiad â chenhedloedd eraill.
3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu
targedau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus
yn rhwystro pobl Cymru rhag dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn
ddigonol, ac yn ystumio'r craffu hir-dymor ar ei methiant
parhaus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.58
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5822 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant bloc sy'n
deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei
fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
11 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal cleifion a recriwtio a chadw staff.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5822 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal cleifion a recriwtio a chadw staff.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
11 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.45
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5819 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ffracio: Gweithredu moratoriwm ar gyfer Cymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Medi 2015